Coedlan Carl

Cartref > Newyddion > Coedlan Carl

Ar brynhawn Sadwrn braf ar ddechrau mis Mehefin daeth tyrfa dda ynghyd i faes parcio Antur Aelhaearn i weld Coedlan Carl yn cael ei agoriad swyddogol. Creuwyd y goedlan fel teyrnged i’r diweddar Dr Carl Clowes un o sylfanwyr Antur Aelhaearn a Nant Gwrtheyrn. 

Cafwyd grant o £170,00 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac yn cynwys y gwrych mae tua tair mil o goed wedi eu plannu. Fe fu Paul a Bea Kelsall yn gweithio yn galed yn plannu gyda cymorth o dro i dro gan eraill.  Fel estyniad i’r cynllun yma bu cyd weithio gyda Plwyf Beuno Sant Uwchgwyrfai a plannu coed ffrwythau ym mynwent eglwys Sant Aelhaearn. 

Yn y goedlan mae ein gwenyn mêl yn byw mewn unarddeg o gychod. Dorothi gweddw Carl a oedd yn torri’r rhuban gyda cymorth gan Llyr ap Rhisiart, cadeirydd yr Antur, Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor a Twm Elias. Mae Twm wedi ysgrifennu rhyw bwt am flora a fawna y goedlan a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan ac fe fydd twm yn tywys grwpiau o gwpas y llwybr pren i egluro am y planhigion sydd yn tyfu yno.

Yn Dilyn torri’e rhuban tywyswyd y dyrfa ar hyd y llwybr pren gan Bea, Joy a Helene gyga’i drymiau er mwyn iddynt cael darllen y byrddau gwybodaeth. Ac wedyn i Ganolfan y Babell am dê brynhawn swpys a cyfle i gyfarfod hen ffrindiau a rhai newydd.

Yn ystod y tê cyflwynodd Rhun ap Glyn Williams, arlunydd lleol, bortread o Carl i Dorothi. Mae Rhun yn artist talentog sydd yn gwneud enw iddo’i hun.

Roedd agoriad y goedlan yn rhan o ddathliadau dathlu’r aur sef pumdeg o flynyddoedd ers sefydlu Antur Aelhaearn.

  • pobl yn torri rhuban i Coedlan Carl.
  • pobl yn sefyll fewn cae efo planhigion yn tyfu.

Newyddion