Coedlan Carl
Cartref > Amdanom > Llanaelhaearn > Coedlan Carl
Coedlan Carl – Cynefin yn yr Oes Geltaidd
Mae’r olygfa o Goedlan Carl - y goedlan gymunedol sydd ar gyrion pentre Llanaelhaearn – i gyfeiriad Tre’r Ceiri a chopaon Yr Eifl, yn debyg o fod wedi newid yn sylweddol o’r Oes Geltaidd, pan oedd Tre’r Ceiri yn ei bri, i’r hyn welwn heddiw.
Byddai llawer mwy o goed yn tyfu yma, ond ni fyddai gorchudd cyfangwbl o goed am y byddai clytiau o dir agored yn eu mysg – y tir sych gorau wedi ei glirio i sefydlu ffermydd, tra byddai rhai rhannau corsiog yn troi yn fawnogydd. Byddai rhai ardaloedd eraill wedi eu clirio o goed drwy borri gan anifeiliaid gwylltion (ceirw yn bennaf). Mae ceirw a defaid yn hoff iawn o borri coed ifanc, a byddai hynny yn atal y goedwig rhag ail-dyfu.
Rhaid cofio bod Coedlan Carl heddiw yn ddim ond darn bach sydd ar ôl o glytwaith mawr llawer ehangach o goed a mawnog fyddai’n gorchuddio y rhan fwyaf o’r ardal.
Ond cymysgiad o goed gwasgaredig a thir mawnog fyddai yma yn yr Oes Haearn (oes Tre’r Ceiri) gyda chnydau o geirch a rhyg yn cael eu tyfu hwnt ag yma lle gellid clirio a sychu fymryn ar y tir. Pobl a’u hanifeiliaid greodd y mawnogydd a rhostiroedd trwy losgi, torri a thrwy i’w hanifeiliaid bori, ac atal coed rhag tyfu. Heb y tri ffactor hwn byddai’r cynefin yn mynd yn ôl i goed yn naturiol, sef helyg a gwern yn bennaf gyda bedw yn y mannau sychach. Mewn ardaloedd fel hyn, lle ceir glawiad uchel (yn wir heddiw, fel yng nghyfnod Tre’r Ceiri) mae ynni’r haul a dŵr o’r glaw un ai yn cael eu hymgorffori mewn coed neu mewn mawn. Dyna pam y bu’r ddau hyn, coed a mawn, yn bwysig i’r hen bobl fel tannwydd i’w llosgi.
Cyflwynir nodiadau isod sy’n rhestru yr hyn a dybiwn yw y prif wahaniaethau yn y tirlun a’r bywyd gwyllt rhwng y cyfnod Celtaidd, dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl a heddiw.
Y Safle
Saif pentref Llanaelhaearn mewn safle a ystyrir yn strategol bwysig, hynny yw, ym Mwlch Llanaelhaearn, sy’n ffin naturiol rhwng Arfon a Llŷn. Yn yr Oes Geltaidd, dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, byddai ardaloedd y naill ochr i’r Bwlch yn arglwyddiaethau gwahanol, gyda Tre’r Ceiri yn amddiffyn a rheoli pob symudiad drwy’r Bwlch. Mae’r Bwlch yn rhoi mynediad trwy’r gyfres o fynyddoedd sy’n ymestyn o’r môr hyd at gyrrion Dyffryn Nantlle, [h.y., rhwng crib Yr Eifl hyd y môr ar un ochr, ac yna Gyrn Ddu, Gyrn Goch a Bwlch Mawr yr ochr arall] ac sy’n creu ffin naturiol rhwng Arfon a Llŷn.
Parhaodd y gwahaniaethau rhwng y ddwy ardal dros y canrifoedd. Yn y Canol Oesoedd roedd Bwlch Llanaelhaearn ar y ffin rhwng Cantref Llŷn a Chantref Arfon, gyda cantref yn cyfeirio at gant tref, gyda pob ‘tref’ yn gasgliad o ffermydd oedd yn eiddo i deulu arbennig. Hyd yn oed heddiw, gwelwn, ar ochr Arfon, mai Caernarfon yw’r brif dref farchnad, ac yno ac ym Menygroes mae’r ysgolion uwchradd, tra yn Llŷn, Pwllheli yw’r brif dref farchnad a safle’r ysgol uwchradd. Mae rhai gwahaniaethau hyd yn oed yn iaith a dywediadau Arfon a Llŷn.
Tre'r Ceiri
Am ei bod yn haws cyrraedd Tre’r Ceiri o ochr Llithfaen, mae’n debyg mai pobl Llŷn fyddai’n rheoli’r gaer y rhan fwyaf o’r amser (mae’n llawer haws cyrraedd yno o gyfeiriad Llithfaen, ac ar ochr Llŷn y mae’r brif fynedfa i’r gaer. Anodd iawn fyddai cyrraedd drwy ddringo’r clogwyn serth o ochr Arfon!). Byddai Tre’r Ceiri, trwy reoli symudiadau trwy’r Bwlch yn gallu amddiffyn Llŷn rhag cyrchoedd gan wŷr Arfon i ddwyn gwartheg a chaethweision ayyb. Cofiwn bod yr hen Geltiaid yn bobl ryfelgar iawr, ac roedd yn hwyl a difyrwch ganddynt i fynd i ddwyn gwartheg ei gilydd! [Yn y Mabinogion ceir y stori am Gwydion yn mynd i lawr i Geredigion i ddwyn moch Pryderi, tra yn Iwerddon mae stori fawr Cuchulain yn ymwneud a dwyn gwartheg.]
Yn y dyddiau Celtaidd, ychydig iawn oedd y defnydd o arian – defnyddid aur ac arian yn bennaf i fasnachu â phobl o ardaloedd pell). Gwartheg oedd prif fesur cyfoeth pobl, a gyda gwartheg y byddid yn talu unrhyw ddyledion sylweddol, a galanas. [Yn ôl yr hen Gyfraith Gymreig (Cyfraith Hywel Dda), Galanas oedd y dull o dalu iawndal am wneud drwg i unigolyn neu deulu arall.]
Byddai Tre’r Ceiri yn bwysig fel amddiffynfa yn erbyn gelynion, gyda muriau uchel a thrwchus o’i chwmpas, muriau fyddai’n sefyll tua 20-25 troedfedd (7-8 medr) o uchder. Ond ei phrif bwrpas fyddai rhoi noddfa petai gelyn yn ymosod. Petai gelyn i’w weld byddai cyrn yn cael eu chwythu, a coelcerthi yn cael eu tanio ar bennau’r bryniau i rybuddio pawb, a byddent yn dod a’u gwartheg, defaid a geifr i ddiogelwch y gaer. Byddai’r teuluoedd, merched a phlant, yn saff yma, tra byddai’r dynion a’r bechgyn ifanc yn mynd allan i frwydro yn erbyn y gelyn.
Yng nghyfnod cynnar Tre’r Ceiri, llwythau Celtaidd eraill fyddai’r gelynion pennaf, ond yn y cyfnod Rhufeinig mae’n debyg bod y Rhufeiniaid (oedd â’u pencadlys yn Segontiwm, Caernarfon) wedi dod i gytundeb efo’r gangen leol o lwyth yr Ordoficiaid (y prif lwyth Celtaidd yng Ngwynedd), fel bod yr Ordoficiaid yn dal eu gafael ar Dre’r Ceiri i amddiffyn rhag ymgyrchoedd o’r môr gan y Gwyddelod a hydnoed Brythoniaid o ogledd Lloegr a’r Alban. Mae’r darnau o grochenwaith ac arian Rhufeinig ddarganfyddwyd yn y gaer yn profi bod perthynas dda a masnach yn digwydd rhwng Tre’r Ceiri a Segontiwm yn y cyfnod Rhufeinig.
Mae Tre’r Ceiri a’r Eifl yn ddigon uchel i weld llongau gelynion yn dod dros y môr, a gellir gweld ymhell dros y tir i gyfeiriad Clynnog. Cofiwn hefyd bod caer fechan yn y cyfnod hwn ar gopa Carreg y Llam, fyddai’n safle dda i gadw golwg dros y môr ac, ar yr un pryd, yn rheoli ac amddiffyn y llwybr o Nant Gwrtheyrn i gyfeiriad Pistyll a Nefyn.
Cymuned Gydweithredol
Amaethyddiaeth, yn enwedig magu anifeiliaid a rhywfaint o gnydau fyddai sail yr economi a phrif weithgarwch teuluoedd yr ardal. Byddai’r tir yn cael ei ddal gan y tylwyth neu deulu estynedig (clan) ac yn cael ei ddefnyddio ar y cyd rhyngthynt. Roedd yn gymuned gydweithredol iawn a olygai y byddai’r gwaith a’r hawliau i’r tir yn cael ei rannu rhyngthynt. Roedd gennych hawl i’r tir os oeddech yn ei ddefnyddio (i borri anifeiliaid neu i dyfu cnydau), oedd yn golygu ‘hawl drwy ddefnydd’. Ond os oeddech, am ryw reswm, yn peidio a’i ddefnyddio a’i drin, neu yn symyd i sefydlu fferm yn rhywle arall, yna byddech yn colli’r hawl i’r tir yr oeddech yn ei adael yn wag, a gallai rhywun arall ei gymryd.
Pan fyddai angen aredig byddai nifer o bobl yn cydweithredu – un, neu ddau, yn cyflenwi ychain i dynnu’r aradr (roedd angen dau ychen fel arfer), un arall yn cyflenwi’r aradr, un arall y swch haearn ar ei flaen, un arall i alw’r ychain ymlaen ac un arall i drin yr aradr. Byddai pawb fyddai yn y tîm aredig cydweithredol yn cael aredig eu tir yn eu tro. Byddai pobl hefyd yn cydweithredu fel hyn adeg y cynhaeaf ac ymhob agwedd o ffermio a gwaith.
Ceir llawer o olion archeolegol yn yr ardal, sy’n dangos bod amaethu wedi bod yn digwydd yma ers amser maith iawn, o gyfnod yr Oes Efydd (tua 2,000 hyd tua 700 blwyddyn Cyn Crist), pan oedd yr hinsawdd yn wahanol i heddiw. Hynny yw, roedd yn gynhesach [Climatic Optimum] a’r ucheliroedd yn fwy addas i dyfu cnydau lle ceid pridd addas. Dyma pryd yr ymestynodd amaethu drwy’r tir; o’r Oes Efydd drwy’r Oes Geltaidd (700 Cyn Crist hyd y cyfnod Rhufeinig), yna Oes y Seintiau (yn dilyn y cyfnod Rhufeinig), ac ymlaen drwy’r Canoloesoedd hyd ein dyddiau ni. Ceir olion hen gaeau a chloddiau (ar ffurf llwyfannau isel ar y llethrau), a thai crynion cynnar iawn, a hen hafotai drwy’r ardal – o lethrau Gyrn Ddu a Chwm Corun i Lithfaen a Mynydd Nefyn. Mae’r garnedd neu domen gerrig ar gopa Moel Carnguwch yn dyddio o’r Oes Efydd ac yn dystiolaeth bod pobl yn byw yma yn y cyfnod hwnnw, ac mae Cromlech Bachwen ger Clynnog yn dangos presenoldeb pobl yma cyn hynny, yn Oes-y-Cerrig (tua 4,500 – 2,000 Cyn Crist)
Anifeiliaid y ffermydd
Rhan bwysig o’r patrwm amaethyddol fyddai i ran o bob teulu fynd â’r anifeiliaid i fyny i’r mynydd pob dechrau Mai (Calan Mai neu G’lanmai = Mai 1af), gan aros mewn Hafod (enw sy’n dod o haf a bod) a’u cadw yno dros yr haf cyn eu dychwelyd ar ddiwedd Hydref i’r Hendref (y cartref dros y gaeaf) erbyn Calan Gaeaf neu G’langaeaf (Tachwedd 1af) Byddai ail-uno’r teuluoedd wedi 6 mis ar wahan dros yr haf yn achos dathlu mawr a chynneu coelcerthi. Byddai symyd yr anifeiliaid i’r mynydd dros yr haf yn galluogi tyfu gwenith a llysiau ar dir yr Hendre gan y rhan o’r teulu fyddai wedi aros yno. Rydym yn dal i weld yr enwau Hafod, a Hendre, ar ffermydd hyd heddiw, sy’n ein hatgoffa o’r hen drefn hon o symyd anifeiliaid yn dymhorol.
Ond nid pob anifail fyddai’n mynd i’r tir mynydd dros yr haf. Byddai’r ychen a ddefnyddid i aredig yn aros i lawr am y byddid eu hangen i aredig a thynnu llwythi’r cynhaeaf adref i’r ffermydd. Yn ôl disgrifiadau’r Rhufeiniaid, du neu goch fyddai lliwiau’r rhan fwyaf o’r gwartheg, oedd yn rhagflaenu brid modern y Fuwch Ddu Gymreig.
Roedd defaid y cyfnod yn fychan, yn gorniog a’u lliw yn frowngoch, tebyg i ddefaid rhai o ynysoedd yr Alban heddiw. Roeddent yn bwysig am eu gwlan yn ogystal a’u cig, ac mewn sawl hen safle archeolegol drwy Gymru sy’n dyddio o’r cyfnod Celtaidd, ceir tystiolaeth o nyddu gwlan (cerrig crwn gyda thwll yn eu canol i droelli’r gwlan i wneud edafedd) a gwehyddu (cerrig mwy o faint, gyda thwll ynddynt i bwyso’r brethyn neu wlanen oedd yn cael ei wneud ar ffrâm wehyddu). Prin iawn yw’r deunydd dillad sydd wedi goroesi o’r cyfnod, ond mae’r ychydig sydd wedi parhau yn dangos bod patrymau sgwâr neu ‘tartan’ yn boblogaidd.
Anifeiliaid eraill o bwys oedd moch – nid rhai fel ein bridiau modern heddiw (sy’n hannu’n rhannol o Tsieina), ond rhai fyddai’n edrych yn debyg iawn i’r moch gwyllt fyddai i’w cael yn y coed. Moch gwyllt wedi eu dofi fyddai moch y cyfnod.
Roedd cŵn yn gyffredin hefyd. Cŵn i hela, a hefyd cŵn i fugeilio ac amddiffyn y defaid. Ceir son yn stori Culhwch ac Olwen yn y Mabinogion am fugail a’i fleiddgi anferth a pheryglus, fyddai’n amddiffyn y defaid rhag bleiddiaid a hefyd rhag lladron deudroed. Ceir y math hwn o gi hyd heddiw yn rai rhannau o Ewrop, e.e. yn yr Alpau, i amddiffyn y praidd rhag y blaidd.
Yn ogystal â’r anifeiliaid pedwar troed, byddai gwenyn hefyd yn cael eu cadw i gynhyrchu mêl ar gyfer melysu bwyd; i wneud medd (y ddiod feddwol roddodd inni y gair meddwi), ac yn feddygol. Byddai mêl yn bwysig gan feddygon – yn ddefnyddiol iawn i wella briwiau a chornwydydd am ei fod yn llawn gwrthfiotigau cryf, ac yn ffordd iach iawn o felysu bwyd.
Ffermio neu amaethu fyddai prif gynhaliaeth teuluoedd yr ardal a cheir olion hen gaeau a thai neu gytiau crynion (tai crwn oedd tai y cyfnod Celtaidd) ar y llethrau drwy’r ardal. Gwartheg, defaid a geifr oedd y prif anifeiliaid ac fe’u symudid i fyny i’r tir mynydd dros yr haf (gyda’r bugeiliaid yn aros mewn Hafod, ac yn dod i lawr i gysgod y dyffryn dros y gaeaf, i’r prif gartref, sef yr Hendref). Mae’r enwau Hafod a Hendre ar ffermydd heddiw yn ein hatgoffa o hyn.
Byddai moch yn cael eu cadw hefyd, ond byddai y rhain yn aros i lawr yn yr Hendref dros yr haf. Ddiwedd Awst a Medi byddai’r moch yn cael eu troi allan i’r coed am y byddent wrth eu bodd yn bwyta’r mes fyddai wedi disgyn o’r coed derw.
Byddai pobl hefyd yn hela, pysgota, a hel ffrwythau gwylltion a madarch i gael amrywiaeth iach yn eu bwyd.
Am nad oes afonydd mawr na llynnoedd yn yr ardal (Afonydd Llyfni, Dwyfor a Dwyfach yw’r agosaf) prin fyddai’n bosib dal eog neu frithyll yn bosib, ond byddai llyswenod (neu sliwod) ar gael yn y ffosydd. Pysgod môr fyddai fwyaf cyffredin i’w bwyta, a byddid yn eu dal mewn rhwyd neu gored (wal i ddal pysgod yn eu holau ar y trai). Byddai crancod a chimychiaid i’w cael o ambell dwll cranc yn y creigiau ar y distyll, neu mewn cewyll gwiail yn y dŵr dyfnach. (byddai cewyll yn cael eu gosod hydnoed ym rhai llynnoedd, e.e., Llyn Cwellyn yn Eryri, = cawell-lyn)
Cynefin Gwyllt
Coed a phlanhigion – Byddai llawer o’r tirlun wedi ei orchuddio gan goed – derw yn bennaf yn y tir gwaelod, gyda choed bedw a chriafol yn gymysg â’r derw ymysg y grug ar y tir mynydd. Ar dir gwlyb, ac yn y corsydd ac ochrau afonydd byddai coed helyg a gwern yn gyffredin.
Ond ni fyddai’r tir yn goedwig i gyd, yn hytrach byddai yn glytwaith o wahanol gynefinoedd a darnau agored. Byddai rhannau, yn enwedig os byddai coed ynn yn tyfu yno yn cael eu clirio i sefydlu ffermydd – mae coed ynn yn arwydd bod y pridd yn gyfoethog ac yn dda i amaethu. Byddai ceirw gwylltion yn ogystal â’r anifeiliaid fferm yn porri ac yn creu llecynnau agored mewn rhai llefydd (drwy fwyta’r coed ifanc ac felly yn atal y goedwig rhag ail- dyfu). Ond y gwartheg a defaid gafodd yr effaith fwyaf ar atal coed rhag ail-dyfu yr adeg honno gan fod eu poblogaeth wastad yn uwch na’r anifeiliaid gwylltion a byddent yn cael eu gwarchod rhag anifeiliaid rheibus fel y blaidd, y lyncs (llewyn?) a’r eryr.
Byddai llawer o blanhigion gwyllt yn cael eu defnyddio yn fwyd a hefyd yn feddygol ar gyfer pob mathau o afiechydon, e.e. rhisgl y goeden helyg ar gyfer poen cur pen a chrydcymalau (yn rhisgl yr helygen y darganfyddwyd y cyffur sydd mewn Asprin). Y llefydd gorau i ddarganfod planhigion meddygol yw cors (mae’r gorsy ng Nghoedlan Carl yn gyfoethog iawn o ran planhigion meddygol), a hefyd gweirglodd llawn blodau gwylltion. Ar dir corsiog byddai brwyn a hesg yn tyfu, a byddid yn torri y rhain i roi ‘to gwellt’ ar adeiladau.
Mae sawl math o wymon yn fwytadwy a byddai pobl yn mynd i lawr i’r glannau i gasglu rhai mathau, e.e. delysg, a lafwr (bara lawr).
Coed
Byddai pobl yn gwneud defnydd o goed i sawl pwrpas. Derw ac onnen ar gyfer adeiladau a dodrefn; coed cyll wedi eu bon-dorri ar gyfer ffyn a ffensus; helyg i wneud basgedi; draenen ddu a draenen wen i’w plannu i wneud gwrych ayyb. Byddai coed, yn enwedig derw ac onnen, yn dda ar gyfer gwneud tân i gynhesu tŷ, a choginio bwyd.
Byddai ffrwythau’r coed yn ddefnyddiol – cnau oddiar y cyll yn cael eu casglu at y gaeaf; ceirios oddiar y coed ceirios; afalau surion ac eirin tagu i wneud catwad (chutney) a blodau a ffrwythau yr ysgawen i wneud gwin.
Byddai’r mês oddiar y coed derw yn fwyd rhagorol i foch, a byddid yn troi’r moch i’r coedlannau derw bob hydref, iddynt gael bwyta’r mês fyddai wedi disgyn o’r coed. Gŵyl Ieuan y Moch, Awst 29ain bob blwyddyn fyddai’r dyddiad i wneud hyn dan yr hen Gyfraith Gymreig.
Planhigion sydd yn arwyddion o ansawdd y pridd ar gyfer ffermio:
Byddai coed ynn yn arwydd yn y goedwig bod y pridd yn felys a ffrwythlon ac felly bod y tir yn addas i’w glirio i sefydlu fferm.
Mae hen ddywediad Cymraeg da iawn sy’n disgrifio ansawdd y tir wrth geisio ei ennill I ffermio:
- Dan redyn mae aur
- Dan eithin mae arian
- Dan y grug (neu frwyn) mae llwgfa.
Ystyr y dywediad hwn yw bod pridd ffrwythlon a dyfn o dan redyn, ac os gellir clirio’r rhedyn fe geir tir ffrwythlon sydd yn bosib i’w aredig a thyfu cnydau arno, fydd yn dod ag aur i’r ffermwr. Mae eithin fel arfer yn tyfu ar dir da ond bod craig yn agos i’r wyneb odditano, sy’n golygu y bydd y tir hwnnw yn dioddef o sychder ar adegau yn yr haf. Ddim cystal â thir rhedyn, ond gwnaiff y ffermwr arian o’i amaethu’n iawn. Mae grug yn arwydd bod y pridd yn fawnog a llwm tra bod brwyn yn arwydd bod y pridd yn oer oer a gwlyb. Bydd rhywun yn llwgu yn yr ymdrech i geisio ennill tir grug neu frwynog i amaethyddiaeth.
Rhai Planhigion Defnyddiol sy’n tyfu yn y gors yng Nghoedlan Carl hyd heddiw:
Yn fwyaf adnabyddus am ei arogl mintys hyfryd. O roi dŵr poeth ar ei ben mae’n dda i wella’r stumog, ac mae’n dda i roi blas hyfryd ar rai mathau o fwyd. Allan o hwn y datblygwyd sawl math arall o fintys gardd.
y blodyn yn sprigyn tal o flodau bach coch-borffor hardd (blodeuo Gorffennaf-Awst). Mae’n dda iawn i ddennu peillwyr (gwenyn, ieir bach yr haf ayyb).
y dail crwn (fel ceiniogau gwyrdd) sy’n rhoi ei enw i’r planhigyn bach hwn, sy’n gyffredin mewn corsydd gwlyb.
blodyn mawr melyn hardd sy’n un o flodau cynharaf y gwanwyn (o ddechrau Mawrth tan ganol yr haf). Mae’n aelod o deulu’r blodyn ymenyn, ac ar un adeg arferid crogi swp ohonno ar Fai y 1af ar ddrws y beudy i amddiffyn y gwartheg rhag gwrachod a’r tylwyth teg. Y blodau’n dda ar gyfer briwiau, a’r petalau i liwio gwlân yn felyn.
planhigyn praff, blewog gyda blodau pinc (Gorffennaf-Awst). Mewn corsydd gwlyb. Mae’n cael ei enw am fod ei ddail yn debyg i ddail y goeden helyg. Mae’n bosib sychu’r dail a’u defnyddio fel te. mae llawer ohonno yn cael ei gasglu ar gyfer hynny yn Rwsia.
planhigyn praff, gyda sypiau o flodau bychain porffor sy’n dennu llawer o beillwyr. Mae’n dda iawn I wneud ffisyg annwyd.
Blodyn melyn hardd a dail hir fel cleddyfau. Cymerwyd y blodyn fel arwyddlun gan frenin Louis y 7fed o Ffrainc adeg rhyfeloedd y Groesgad yn y 12fed ganrif, pan y’i gelwid y ‘fleur de Louis’ (blodyn Louis), a ddaeth yn ddiweddarach yn ‘fleur de Lis’, arwydd cenedlaethol Ffrainc. Cyn dyddiau lliwiau cemegol modern fe’I defnyddid i liwio dillad – melyn o’r blodau a du o’r gwraidd.
blodyn bach glas hyfryd (Mai-Awst) gyda’i ganol yn felyn. Cafodd ei enw o stori amdanno o’r Almaen am farchog yn ei siwt haearn yn cerdded gyda’i gariad ar lan afon. Plygodd i bigo’r blodyn bach glas hardd iddi, ond baglodd a chwympo i’r dŵr. Roedd ei arfwisg mor drwm nes iddo fethu codi yn ei ôl, ond cyn iddo suddo a boddi, llwyddodd i daflu’r blodyn i’w gariad a gwaeddi “Vergisz mein nicht!”, sef “Na’d fi’n anghof!” (= paid a fy anghofio).
sprigyn o flodau pinc (blodeuo Gorffennaf-Medi) ac yn perthyn i deulu’r mintys, er nad yw ei arogl yn hyfryd iawn. fe’i defnyddid i geulo (neu atal) gwaed, yn arbennig y briwiau geid gan rai fu’n ymladd â chyllill mewn tafarn!
blodyn melyn hardd sy’n dechrau blodeuo o gwmpas Gŵyl Ifan (dydd hiraf y flwyddyn). Caiff yr enw Llysiau Ifan o’r cysylltiad ag Urdd Sant Ioan, mynachod a gymerodd ran yn y Groesgad ym Mhalesteina, 800 mlynedd yn ôl, a oeddent yn defnyddio planhigion o deulu Llysiau Ifan i wella clwyfau milwyr oedd wedi eu hanafu yn y rhyfel. Enwyd pentref Ysbyty Ifan, yn Nyffryn Conwy, a Brigad Ambiwlans Sant Ioan ar eu hol. Fe’i defnyddid ar un adeg hefyd i gael gwared o ysprydion ac i amddiffyn rhag melltith, afiechyd, a lwc ddrwg.
yn blodeuo Ebrill- Mehefin, sef yr un tymor â’r gog. Blodyn pinc hardd mewn corsydd a gweirgloddiau gwlyb. Yn arwydd o’r gwanwyn a dechrau’r haf, ac yn ffefryn gan yr iâr bach yr haf – y blaen oren.
yn blodeuo mewn corsydd a gweirgloddiau gwlyb ym Mai-Mehefin,sef yn nhymor y gog (sy’n esbonio’r flos-cuculi yn ei enw gwyddonol, sy’n golygu ‘blodyn y gog’). Yn cael ei enw o’i betalau carpiog.
blodyn hardd iawn yn tyfu mewn corsydd a gweirgloddiau gwlyb.
Gwerth ychwanegol i’r gors:
Er nad yw cors neu fawnog yn ddefnyddiol iawn i anifeiliaid fedru pori ynddi, nac i ffermwr gael porthiant at y gaeaf i’w wartheg a defaid ohoni, mae cors yn medru bod yn le da i gael planhigion meddygol (fel uchod) ac, ar un adeg, yn ffynhonell o fawn i’w sychu a’i losgi. Erbyn hyn nid ydym yn codi mawn i’w losgi, ac wedi dod i ddeall am ei bwysigrwydd i gymeryd a chloi carbon deuocsid o’r awyr, gan gyfrannu at leihau ei effaith drwg ar gynhesu’r ddaear, a’r holl beryglon i’r amgylchedd sy’n codi o hynny. Mae’r gors yng Nghoedlan Carl, felly, er mai bychan yw hi, yn gyfraniad gwerthfawr i warchod yr amgylchedd.
Creaduriaid gwylltion
Yn ogystal a ffermio, byddai hela a physgota yn rhan bwysig o fywyd pobl yr Oes Geltaidd. Ceir amryw o gyfeiriadau at adar a chreaduriad yn y Mabinogion:
Creaduriaid hynaf a doethaf y byd = Eryr Gwernabwy, Mwyalch Cilgwri, tylluan Cwmcawlyd ac Eog Llyn Llyw yn stori Culhwch ag Olwen.
Creaduriaid eraill = yn stori Taliesin sonir am yr hebog, dyfrgi, ac ysgyfarnog; tra yn yn stori Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd cawn son am y carw, baedd gwyllt, blaidd, a hefyd eryr a thylluan. Digwyddodd rhan bwysig o stori Lleu a Blodeuwedd yn Nyffryn Nantlle, yn Arfon, sydd yn llai na 10 milltir o Lanaelhaearn.
Ac yn Y Gododdin (pennillion o’r 6ed ganrif) ceir penill yn cyfeirio at greaduriaid eraill, lle mae’r tad yn mynd i hela hefo’i ddau gi, i gael i’w fab bychan, grwyn bela goed, llewyn (lyncs mae’n debyg) a llwynog, a hefyd bwyd blasus, sef cig baedd gwyllt, pysgod o Raeadr Derwenydd, a ‘grugiar fraith’ o’r mynydd.
Dyma restr o’r creaduriaid mwyaf cyffredin yn ardal Llanaelhaearn a’r Eifl yn y cyfnod Celtaidd:
Anifeiliaid
y carw coch, a hefyd yr iwrch, sydd yn llai o faint – eu hela am eu cig a chroen. Byddai y cyrn yn ddefnyddiol i wneud dwrn i gyllell ac i’w cerfio i wneud addurniadau ayyb
yn y coed yn bennaf, ei hela am ei gig
yn dod o’r mynydd-dir a’r coedlannau cyfagos ac yn broblem i’r rhai oedd yn magu defaid.
o’u daeërydd yn y mynydd-dir cyfagos ac yn broblem adeg wyna.
byddai cathod gwylltion yng Nghymru yn y dyddiau hynny, yn y coed. Dim ond yn rhannau o’r Alban y meant i’w cael erbyn heddiw.
math o gath wyllt fawr sydd ddim i’w chael yn ynysoedd Prydain heddiw. Cafodd ei difa am ei chroen ac am ei bod yn lladd ŵyn.
o’u daeërydd yn y coedlannau a’r mynydd-dir cyfagos
i’w cael mewn corsydd ar un adeg, ond wedi eu hela i ddifancoll am eu crwyn yn y Canol-oesoedd. Yn enwog am godi argae o goed ar nant neu mewn cors i greu cynefin iddynt eu hunnain. Mae rhai wedi eu hail gyflwyno i ganolbarth Cymru yn ddiweddar.
yn y caeau a llefydd agored
yn y coedlannau. Roedd y bele yn dal yng Nghymru tan yn ddiweddar, ac mae rhai wedi eu hail-gyflwyno erbyn hyn. Siawns na welir rhai eto yn yr ardal yn y blynyddoedd i ddod
anifeiliaid bychain sy’n hela llygod a gwningod.
byddai gwiwerod yn gyffredin yn y coed – y gwiwerod gochion fyddai y rhain. Ni ddaeth y wiwer lwyd (o Ogledd America) i Wynedd tan y 1950au
yn yr afonydd a glannau’r môr
yn magu yn y baeau bach cysgodol yn ardal Trefor a Nant Gwrtheyrn
roedd gwahanol fathau o lygod ac ystlymod yn gyffredin hefyd. Mae eu hesgyrn a’u olion o’r cyfnod Celtaidd wedi eu canfod yn y pridd mewn ogofau ar hyd a lled Cymru
Sylwch nad oedd gwningod yma bryd hynny. Y Normaniaid gyflwynodd y wningen i Brydain. Nid oes sicrwydd os oedd yr arth yn dal yma – mae siawns ei bod wedi cael ei difa yn gyfangwbl yn yr Oes Efydd neu yn Oes y Cerrig. Eto fyth mae’r enw Arthur (un â nerth a ffyrnigrwydd yr arth) i’w gael ar un o frenhinoedd cynnar ac enwocaf Cymry. Ni does sicrwydd chwaith os oedd y Bual Gwyllt (Auroch), oedd yn fath o fuwch wyllt fawr beryglus yn dal i’w chael yn y coed yn yr ardal.
Adar
Mae’n debyg y byddai bob un o’r adar welir ym Mhlwyf Llanaelhaearn heddiw i’w cael yma yn y cyfnod Celtaidd. Ond mae rhai adar wedi diflannu yn llwyr, e.e. yr eryr (ei golli yn yr 1500au) a rhegen yr ŷd (collwyd yn y 1950au). Prin iawn hefyd erbyn hyn yw gweld petrisen, grugiar, cornchwiglen, a gylfinir yn y plwy. Byddai wyau’ gylfinir, cornchwiglen a’r sguthan yn cael eu casglu a’u bwyta.
Dau aderyn fyddai yn lled gyffredin yn yr Oes Geltaidd, fyddai y frân goesgoch a’r barcud coch. Mae’r frân goesgoch yn aderyn prin iawn erbyn hyn, ond meant i’w gweld yn aml yn ardal Nant Gwrtheyrn a’r Eifl. Mae’r barcud coch wedi dychwelyd i’r ardal yn y blynyddoedd diwethaf.
Pysgod
yn rhai o afonydd yr ardal
yn y ffosydd a phyllau
nid oes afon ddigon mawr i’r eog yn yr ardal – byddai raid teithio i afonydd Llyfni, Dwyfor neu Dwyfach i’w gael
gellid mynd i lannau môr Trefor neu Nant Gwrtheyrn i ddal gwahanol bysgod môr mewn rhwydi, gored, neu gewyll. Gellid hela lledod drwy eu sticio efo gwaewffon neu dryfer, a chodi llymrïod o’r tywod.
byddai pobl yn gwybod am y tyllau crancod ymysg creigiau glannau’r môr ac yn gosod cewyll o wiail yr helygen i’w dal hefyd.
byddid yn hel gwichiaid a chregyn eraill i’w bwyta
- golygfa o'r safle coedlan cyn cychwyn ar y gwaith
Rhan o’r safle cyn cychwyn ar y Gwaith
- arwydd yn ddangos gwybodaeth am yr planhigion ac yr golygfa
Yr safle
- amrywiaethau o planhigion ar y safle
Yr safle


