Cod Ymddygiad
Cartref > Cyngor > Cod Ymddygiad
Mae'r Atodiad amgaeedig yn nodi testun (yn Gymraeg a Saesneg) y Cod Ymddygiad Enghreifftiol a bennir gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008, fel y'i diwygiwyd gan yr offerynnau statudol canlynol:
-
Rheoliadau Deddf Cwmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol ac Undebau Credyd 2010 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 - (Rhif 2014/1815) (“Rheoliadau 2014”) - yn dod i rym ar 1 Awst 2014.
-
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 (Rhif 2016/84) – yn dod i rym ar 1 Ebrill 2016.
Cynhyrchwyd y ddogfen hon er budd awdurdodau perthnasol y mae'r Cod Enghreifftiol yn gymwys iddynt, ond nid oes ganddi unrhyw statws cyfreithiol. Credir ei bod yn cynrychioli’r gyfraith ar 1 Ebrill 2016 yn wir ac yn gywir, ond ni roddir unrhyw sicrwydd yn hyn o beth, a dylai'r awdurdodau geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain ar faterion sy'n ymwneud â'r Cod.
Sylwer: Gwnaed Rheoliadau 2014 gan Lywodraeth y DU. Maent yn diwygio'r Cod Enghreifftiol drwy fewnosodi diffiniad o ‘cymdeithas gofrestredig’. Mae'n ymddangos na ddiwygiwyd fersiwn Gymraeg y Cod Enghreifftiol ar yr un pryd. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n trafod hyn â Llywodraeth y DU gyda'r bwriad o ddiwygio'r fersiwn Gymraeg cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Yn y cyfamser, nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod yr anghysondeb hwn yn effeithio'n ymarferol ar weithredu'r Cod Enghreifftiol.