Hysbysiad o Gyfethol - Ward Trefor
Cartref > Newyddion > Hysbysiad o Gyfethol - Ward Trefor
RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Trefor a Llanaelhaearn yn bwriadu Cyfethol aelod i lenwi’r sedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd ward Trefor.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
- wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
- yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
- wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
- rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar clerc@cctreforallanaaelhaearn.cymru erbyn 20ain o Chwefror, 2026